Diwrnod 109: Gweddïo dros y rheini sydd wedi ymateb i alwad Duw i fod yn swyddog ym Myddin yr Iachawdwriaeth (1982)
Hydref 4ydd
Diwrnod 109 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Ond bydda i’n canu mawl i’r Arglwydd; ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr. Mae e’n sefyll gyda’r un sydd mewn angen, ac yn ei achub o afael yn rhai sy’n ei gondemnio' (Salm 109:30 a 31).
1982
Ar Fehefin 25ain 1982, bu farw'r Brigadydd Ivy Roberts (née Lewis). Daeth yn wreiddiol o Ddinas Rhondda ac aeth o gorfflu Caerdydd 5 i fynychu’r coleg hyfforddiant yn 24 mlwydd oed. Ni ddatblygodd y cysylltiad rhamantaidd oedd rhyngddi a swyddog ifanc arall ond daeth o hyd i gariad a phriodi chwe blynedd ar ôl iddi ymddeol. Yn ystod y blynyddoedd hynny, gweithiodd yn galed iawn. Dyma restr o’i hapwyntiadau gan y Ganolfan Dreftadaeth Ryngwladol:
- 1935 Llundain
- 1938 Southsea
- 1939 Southampton
- 1942 Bradninch
- 1944 Caeredin
- 1946 Caerdydd
- 1948 Dundee
- 1949 Cheltenham
- 1949 Sheffield
- 1950 Llundain
- 1950 Johannesburg (Hostel i Fenywod)
- 1951 Johannesburg (Cartref i Fechgyn)
- 1952 Johannesburg (Cartref i Ferched)
- 1954 Johannesburg (Cartref i Famau heb eu priodi)? Inglenook
- 1958 Buxton
- 1959 Bryste
- 1960 Llundain (Asiantaeth Cyflogadwyedd)
- 1961 Llundain (Cartref i Blant)
- 1962 Lerpwl
- 1967 Brighton (Hassocks)
- 1970 Ymddeol
Gweddi
- Gweddïwch dros y swyddogion rydych chi’n eu hadnabod. Defnyddiwch y cyfle hwn i anfon neges atynt yn dweud wrthynt eich bod wedi gweddïo drostynt heddiw.
Discover more
A monthly downloadable resource that features The Salvation Army's UK and Ireland (UKI) Prayer Rhythm- a heartbeat of united prayer across the territory.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.