Diwrnod 63: Gweddïo dros ddylanwad parhaus Together 2024 yng Ngorffennaf (1936)
Awst 19eg
Diwrnod 63 o 150 Diwrnod o Weddi.
-
‘O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr’ (Salm 63:1).
1936
Roedd stori yn War Cry ar Ionawr 18fed gyda'r pennawd ‘Aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth Cymru yn Dod Ynghyd’. Roedd y stori yn trafod ‘Diwrnod Cymreig’ yn Llundain:
‘Roedd digon o hwyl a mwynhad i’w cael yn y Diwrnod Cymreig a gafodd ei gynnal gan y Cyrnol a Mrs T Lewis yn Nwyrain Finchley Ddydd Sul. Roedd mwy na phedwar deg o Gymru a oedd yn aelodau yng nghorffluoedd Llundain wedi dod at ei gilydd i greu grŵp o Gantorion Cymraeg a band pres bach dan arweiniad Arweinydd y Band Waite, a oedd yn dod yn wreiddiol o Drealaw.
‘Ceisiodd pedwar enaid iachawdwriaeth yn ystod y diwrnod. Cafodd y Cyrnol gefnogaeth y Brigadydd Effer a’r Uwch-gapten Emily Taylor.
Roedd sôn am ddigwyddiad Cymreig pwysig arall yn yr adroddiad:
‘Mae’r pumed Ŵyl Gymreig Flynyddol yn mynd i gael ei chynnal yn Neuadd Cyngres Clapton Ddydd Sadwrn, Chwefror 29ain. Bydd agweddau newydd gan gynnwys Band o Lundain yn cael ei arwain gan yr Uwch-gapten Jakeway sy’n enedigol o Aberdâr. Bydd hefyd grŵp o gantorion Cymraeg o Lundain, yn cael ei arwain gan y Dirprwy Arweinydd Waite o Wembley, ond yn enedigol o Drealaw.’
Gweddi
- Diolchwch i Dduw am Together 2024 yng Nghasnewydd. Efallai ei fod yn teimlo fel atgof pell ond cafodd pobl eu hysbrydoli, eu hachub a’u tanio i barhau gyda’n cenhadaeth wych yma yng Nghymru.
- Gweddïwch dros yr is-gapteniaid newydd a gafodd eu comisiynu yng Nghymru sydd bellach yn dechrau eu cenhadaeth yn eu hapwyntiadau newydd.
Discover more
A monthly downloadable resource that features The Salvation Army's UK and Ireland (UKI) Prayer Rhythm- a heartbeat of united prayer across the territory.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.