Diwrnod 78: Gweddïo dros y cymoedd (1951)
Medi 3ydd
Diwrnod 78 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘A byddwn ni’n eu rhannu gyda’r plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa. Dweud fod yr Arglwydd yn haeddu ei foli! Sôn am ei nerth a’r pethau rhyfeddol a wnaeth’ (Salm 78:4).
1951
Yn The Old Glory Shop (1951) ysgrifennodd Thomas Cadwaladr Parry am gorffluoedd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghwm Rhondda:
‘Dw i ddim yn teimlo fod angen ysgrifennu cyflwyniad i gyfrol mor fach, gan fod y gyfrol ei hun ond yn gyflwyniad o’r dechrau i’r diwedd i’r hyn a ellir dweud am yr Old Glory Shop a gweithgareddau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Nhrewiliam a Phenygraig dros y 54 o flynyddoedd diwethaf.
‘Mae pob corfflu yn y cwm yn barod i gynorthwyo’i gilydd - a pham lai? Un Fyddin ydym ni, yn anelu am yr un nod, yr un fuddugoliaeth a phregethu’r un efengyl. Mae wedi datblygu yn draddodiad ar hyd y blynyddoedd bod y corffluoedd yn ymuno ym mhob corfflu yn y gwanwyn. Llun y Pasg yn Nhrealaw, Dydd Mawrth yn y Gelli; dydd Llun cyntaf mis Mai yn y Porth; dydd Llun Sulgwyn yn Nhrewiliam, a’r dydd Mawrth yn Nhreherbert. Mae’r gwasanaethau ym mhob corfflu yn llwyddiannus iawn, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae lleihad wedi bod yn y niferoedd sy’n mynychu gan fod gymaint yn gweithio.
‘Hoffwn bwysleisio'r angen mawr am weddi yn y dyddiad hwn. Gadewch inni weddïo am ddiwygiad mawr oherwydd dim ond diwygiad crefyddol a all oedi’r llif o ddrygioni sydd o’n hamgylch. Boed i’r ddaear dod mewn edifeirwch a ffydd at groes Crist.’
Gweddi
- Mae cais Thomas Cadwaladr Parry yn gais sy’n addas heddiw hefyd. Ymunwch gyda’r rheini sy’n darllen am ac yn gweddïo dros ddiwygiad yng nghymoedd Cymru.
Discover more
A monthly downloadable resource that features The Salvation Army's UK and Ireland (UKI) Prayer Rhythm- a heartbeat of united prayer across the territory.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.