Diwrnod 79: Gweddïo dros Orllewin Cymru (1952)
Medi 4ydd
Diwrnod 79 o 150 Diwrnod o Weddi.
- ‘Helpa ni, O Dduw ein hachubwr, er mwyn dy enw da. Achub ni a maddau ein pechodau, er mwyn dy enw da’ (Salm 79:9).
1952
Agorodd preswylfa i fenywod ifanc ar Heol y Gadeirlan, Caerdydd.
Roedd adroddiad yn War Cry ar Ragfyr 13eg yn trafod ymgyrch yng nghymoedd Gorllewin Cymru:
‘Yn ddiweddar, aeth y Brigadydd Edmund Taylor, arweinydd yr adran, gyda grŵp o swyddogion gwrywaidd yr adran i ymdeithio am bedwar o ddyddiau trwy gymoedd Gorllewin Cymru. Roedd gan bob un ohonynt offerynnau pres gyda’r bwriad o rannu’r efengyl mewn cymunedau, sydd i’r rhan fwyaf, yn eithaf pell o gorfflu Byddin yr Iachawdwriaeth.
‘Daethon nhw i stop mewn 39 o ganolfannau er mwyn cynnal gwasanaethau awyr agored. Cysylltodd y swyddogion gyda glowyr, gweithwyr ffatri, gyrrwyr bysus a siopwyr benywaidd. Yn y strydoedd, gadawon nhw eu hofferynnau er mwyn mynd i mewn i dai ble rhannon nhw eiriau o gymorth a darn o’r ysgrythur.
‘Daeth yr ymgyrch i ben gyda gwasanaeth yng Nghorfflu Abertawe. Roedd y gynulleidfa yn hapus iawn wrth glywed y straeon o’r ymgyrch.’
Gweddi
- Sut ydym yn cyrraedd cymunedau Gorllewin Cymru heddiw? Efallai drwy’r cyfryngau cymdeithasol? Gofynnwch i Dduw beth y gallwn ni ei wneud? Gweddïwch dros unigolion wedi’u llenwi â’r Ysbryd ac sy’n fodlon ymgymryd â’r dasg.
- Gweddïwch dros y rheini sydd yng Ngorllewin Cymru ac sy’n lledaenu’r newyddion da am Iesu. Gweddïwch am fywydau’n cael eu trawsnewid.
Discover more
A monthly downloadable resource that features The Salvation Army's UK and Ireland (UKI) Prayer Rhythm- a heartbeat of united prayer across the territory.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.