Diwrnod 99: Gweddïo dros y rheini sy’n dod o hyd i loches mewn cymunedau newydd (1972)
Medi 24ain
Diwrnod 99 o 150 Diwrnod o Weddi.
- 'Addolwch yr Arglwydd ein Duw! Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig, achos mae’r Arglwydd ein Duw yn sanctaidd!' (Salm 99:9).
1972
‘Roedd rhyfel Fietnam (1955-1975) yn dod i derfyn yn 1972. Roedd y mwyafrif o fyddin UDA ar lawr gwlad wedi eu galw yn ôl. Bu Byddin yr Iachawdwriaeth yn darparu cymorth brys yn Fietnam.
(Beyond the Battlefield gan Barbara A Exline)
Mewn erthygl yn y Deliverer Mai/Mehefin 1972 roedd llun menyw o Fietnam, wrth ochr y testun canlynol: ‘Mae’r fenyw hon o Fietnam wedi dod i’r wlad hon i gwblhau cwrs newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei chysylltiad cyntaf gyda Byddin yr Iachawdwriaeth oedd trwy Northlands a gynigodd ofalu am ei phlentyn tra ei bod hi'n cwblhau ei hastudiaethau. Mae’n gobeithio dysgu mwy am waith Byddin yr Iachawdwriaeth.’
Mae’r stori hon yn dangos sut y mae gweithred fach yn gallu cael effaith fawr.
Gweddi
- Efallai bod pobl yn eich cymuned chi yn ceisio lloches. Gweddïwch y bydden nhw’n cael eu cefnogi lle bo’n bosib gan Fyddin yr Iachawdwriaeth.
Discover more
A monthly downloadable resource that features The Salvation Army's UK and Ireland (UKI) Prayer Rhythm- a heartbeat of united prayer across the territory.
Captain Kathryn Stowers talks to Major Jo Moir (THQ) about celebrating 150 years of mission and ministry in Wales.